Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Wednesday 3 October 2012

The Story of Wales: Power Struggles





Crannog Llyn Syfaddan, Brecknockshire
AP_2005_1162  NPRN 32997

Ar ôl darlledu rhaglen gyntaf y gyfres “The Story of Wales” neithiwr, bydd yr ail raglen yn cael ei dangos heno ar BBC2 am 7pm. Mae’r rhaglen hon, “Power Struggles”, yn trafod Cymru’r Oesoedd Canol Cynnar ac yn ymdrin â phynciau diddorol megis adeiladu Clawdd Offa yng nghanol yr wythfed ganrif gan Frenin Mercia, a Theyrnas Gymreig Brycheiniog yn y ddegfed ganrif. Mae hefyd yn edrych ar gyfreithiau Hywel Dda a phriodas yn yr Oesoedd Canol, yn ogystal â Rhys ap Gruffydd, Ustus De Cymru, a’r Eisteddfod gyntaf erioed a gynhaliwyd yn ei gastell yn Aberteifi.

Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn yr 2il raglen:

Mae cyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol, Trysorau Cudd, sydd hefyd ar gael yn y Saesneg o dan y teitl Hidden Histories, yn cynnwys adran ddiddorol ar “Cymru’r Oesoedd Canol Cynnar”, yn ogystal â thrafodaeth awdurdodol ar “Yr Oesoedd Canol” gan yr Athro Ralph Griffiths, cyn-Gadeirydd y Comisiwn Brenhinol. Os oes gan wylwyr ddiddordeb yn yr Oesoedd Canol, efallai y bydd ganddynt ddiddordeb hefyd yng nghyfres Uwchdiroedd y Comisiwn Brenhinol sy’n cynnwys The Western Brecon Beacons: The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr, a Mynydd Hiraethog: The Denbigh Moors. Gellir cael copïau o’n holl gyhoeddiadau drwy ein siop lyfrau, ac mae disgownt arbennig o 10% ar gael i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails