Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Tuesday 2 October 2012

Pobl Ceredigion yn Adrodd Eu Hanesion





Yn ystod ein digwyddiadau sganio yn yr haf roedd pobl yn ddigon caredig i ddod â’u ffotograffau a deunyddiau archifol eraill atom i gael eu sganio a’u llwytho i fyny i wefan Casgliad y Werin. O ganlyniad i’r cyfraniadau hynod ddiddorol hyn rydym wedi gallu ychwanegu sawl casgliad at y wefan, sy’n cynnwys hanesion ysgrifenedig a llafar yn ogystal â ffotograffau a dogfennau hanesyddol. Mae’r casgliadau’n ymwneud â phobl a lleoedd yn Aberystwyth yn bennaf, gan gynnwys:
  • Seremoni agor y Neuadd Goffa, Penparcau ym 1933 - ffotograffau drwy law Gwilym Thomas
  • Meysydd chwarae Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth: ffotograffau o gemau criced a rygbi a digwyddiadau athletau o’r 1930au i’r 1950au - drwy law Meirion Morgan, prif dirmon 1947-2002
  • Evan Thomas - saer cerbydau, gof a theulu dosbarthu llaeth o Southgate - ffotograffau a deunydd archifol drwy law Gwilym Thomas
  • Amrywiaeth o ffotograffau a deunyddiau archifol, gan gynnwys posteri ar gyfer y Theatr Fach a Phafiliwn y Pier Brenhinol - drwy law Charlie Downes
  • Arteffactau gan gynnwys hen bistol, pedolau gwartheg ac ocarina - drwy law Beti Gwenfron Evans a Gwenllian Jones
  • Disgrifiad o symudiad teulu Cymreig i Lundain yn y 1920au-1930au, gan gynnwys recordiadau hanes Llafar wedi’u hadrodd gan Beti Gwenfron Evans

Gwefan Casgliad y Werin

Mae’r amrywiaeth anhygoel hon o gyfraniadau gan bobl leol yn helpu i ddod â’n hanes lleol yn fyw. Gobeithir y bydd yr eitemau sydd wedi’u casglu hyd yn hyn yn annog llawer mwy o bobl i adrodd eu hanes drwy lwytho eu heitemau hanesyddol eu hunain i fyny i Gasgliad y Werin Cymru: http://www.casgliadywerincymru.co.uk


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RSS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails