Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Tuesday 29 May 2012

Arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru





Rachael Barnwell yng nghanol yr arddangosfa sydd bellach yn Amgueddfa Ceredigion
 Ddydd Gwener diwethaf, 25 Mai, cafodd yr arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru ei hagor yn ffurfiol gyda’r nos mewn heulwen braf yn Amgueddfa Ceredigion. Mae delweddau’r Cofnod Henebion Cenedlaethol o du mewn cartrefi Cymru wedi cael eu dewis yn ofalus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan Rachael Barnwell o’r Comisiwn Brenhinol. Mae’r rhain bellach i’w gweld ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliad Amgueddfa Ceredigion o ddodrefn ac offer cartref sydd yng ngofal Alice Briggs. Ar ôl cael ei groesawu’n gynnes gan Alice, cyflwynodd Peter Wakelin, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, yr arddangosfa i’r cyhoedd, a bu’n canu clodydd Rachael am ei gwaith caled. Yna diolchodd Rachael i bawb yn y Comisiwn ac y tu allan iddo am wneud yr arddangosfa yn gymaint o lwyddiant.

Rachael ac Alice yn mwynhau llwyddiant yr arddangosfa
Gellir gweld yr arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru yn Amgueddfa Ceredigion hyd Ddydd Sadwrn, 7 Gorffennaf.

Ar Ddydd Gwener 1 Mehefin bydd Rachael Barnwell yn rhoi sgwrs oriel yn Amgueddfa Ceredigion, gan ddechrau am 1pm. Bydd hi’n siarad am y prosiect Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, ac yn rhoi peth o hanes y delweddau sy’n cael eu harddangos. Mae mynediad i’r amgueddfa am ddim, ond i gael rhagor o fanylion ewch i wefan Amgueddfa Ceredigion.  Dewch draw i ddarganfod mwy.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails