Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Monday 26 March 2012

Gwaith Celf Diwydiannol Unigryw yn Ennill Cymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri





Melin Pant-yr-Ynn, Bethania, NPRN:-28620

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £46,700 i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i brynu casgliad unigryw o fwy na 600 o luniadau a dyfrlliwiau gwreiddiol gan Falcon Hildred, artist sy’n gweithio yng Nghymru’n bennaf . Mae’r Comisiwn Brenhinol, sydd â’i swyddfa yn Aberystwyth, yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ironbridge Gorge (yr IGMT) i achub y cofnod gweledol nodedig hwn o adeiladau a threfweddau diwydiannol er mwyn i genedlaethau ddydd a ddaw gael ei fwynhau.

Mae’r casgliad wedi’i gatalogio gyda chymorth gwirfoddolwyr, a bydd sganio o ansawdd uchel yn sicrhau y bydd lluniau digidol gwych ohono ar gael ar-lein drwy Coflein (cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol) a gwefannau Ironbridge a Chasgliad y Werin Cymru. Yn ogystal, bwriedir cynnal arddangosfeydd, sgyrsiau cyhoeddus a chyhoeddiad awdurdodol yn 2012 i roi rhagor o gyhoeddusrwydd i’r casgliad.

Mwynglawdd a chwarel lechi’r Oakeley, Blaenau Ffestiniog, NPRN:-404307

Artist hynod ddawnus yw Falcon Hildred ac mae ef wedi cysegru gwaith ei fywyd i gofnodi adeiladau a thirweddau diwydiant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae ei waith o werth esthetig, hanesyddol a chymdeithasol mawr gan iddo fwrw ati i gofnodi’r newidiadau technolegol a pheirianyddol, a ffordd o fyw sy’n diflannu’n gyflym, yn fanwl iawn. Mae’r lluniadau’n cofnodi Blaenau Ffestiniog (cartref yr artist oddi ar 1969 a man y mae wedi cofnodi llawer arno) ac amryw o drefi diwydiannol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn ogystal â Grimsby, Coventry, Llundain a Birmingham.

Falcon Hildred wrth ei fwrdd lluniadu
Caiff arddangosfa fawr o ddetholiad o’i weithiau gwreiddiol ei chynnal yn Oriel Coalbrookdale yn Ironbridge o ddiwedd mis Medi 2012 tan fis Ebrill 2013 a’r bwriad yw mynd â’r arddangosfa ar daith o 2013 ymlaen. Caiff fersiynau digidol o’r arddangosfa eu dangos yn y Sioe Frenhinol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2013. Ym mis Medi 2012 cyhoeddir llyfr a fydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd y casgliad a’r artist. Y cyhoeddiad hwnnw, a’r ymchwil ar ei gyfer, fydd y sail i gyfres o sesiynau newydd o addysg ac estyn-allan yn Ironbridge o dan arweiniad staff addysg yr Amgueddfa a’u gwirfoddolwyr. Cynhyrchir deunydd addysgol hefyd ar gyfer gwefan Casgliad y Werin Cymru.

Wrth sôn am y dyfarniad, meddai Peter Wakelin, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, “Mae prynu’r casgliad hwn yn golygu y caiff oes o waith cofnodi ei diogelu at y dyfodol. Mae Falcon Hildred yn rhoi i ni ffyrdd newydd o edrych ar adeiladau a thirweddau hanesyddol ac yn ein hysbrydoli. Mae’n apelio at bawb – o blant ifanc i benseiri ac arbenigwyr ar dreftadaeth. Mae clywed y bydd yr adnodd gwych hwn ar gael i bawb am byth o hyn ymlaen yn newyddion arbennig o braf.”

Wrth esbonio pwysigrwydd cymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, meddai Steve Miller, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ironbridge Gorge, “Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ein helpu ni i brynu’r casgliad rhyfeddol hwn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Comisiwn Brenhinol i sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl fwynhau gwaith artist disglair ac unigryw sydd wedi dogfennu’r oes ddiwydiannol mewn ffordd mor gwbl nodedig”.






Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails