Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Tuesday 21 February 2012

Swydd Wag - Cadw: Rheolwr Ymgysylltu Cyhoeddus a Chymraeg





Cadw: Rheolwr Ymgysylltu Cyhoeddus a Chymraeg.

Cadw
Rheolwr Ymgysylltu Cyhoeddus a Chymraeg
Band cyflog £27,700–£33,200

Bydd y swydd newydd gyffrous yma yn rhoi cyfle unigryw i’r ymgeisydd llwyddiannus fireinio’i sgiliau a’i brofiad presennol i ddatblygu rhaglen arloesol o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn henebion Cadw er mwyn hybu a dathlu treftadaeth, iaith a diwylliant Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o’r Tîm Dehongli yng Nghangen Ymgysylltu Cyhoeddus a Llywodraethiant Cadw i ddyfeisio a gwireddu digwyddiadau a rhaglenni o weithgareddau ar safleoedd Cadw. Bydd yn gweithio gyda chydweithwyr yn Cadw ar draws yr holl ddisgyblaethau a chyda chymunedau lleol, grwpiau buddiannau arbennig a chontractwyr i helpu i sicrhau bod safleoedd treftadaeth yn lleoedd dealladwy, difyr a pherthnasol i ymweld â nhw. Bydd hefyd yn gweithredu fel cydlynydd Cymraeg Cadw, gan gymryd yr awenau wrth roi polisïau Cymraeg ar waith ac wrth nodi ffyrdd i brif-ffrydio iaith a diwylliant Cymru mewn modd llawn dychymyg yn rhaglenni cyhoeddus Cadw.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n effeithiol (ar lafar ac mewn ysgrifen) yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd yn meddu ar gymhwyster mewn archaeoleg, hanes neu reoli treftadaeth ar lefel gradd gyntaf o leiaf neu brofiad cyfatebol perthnasol arwyddocaol. Bydd ganddo ef neu ganddi hi brofiad pendant o drefnu digwyddiadau yng nghyd-destun diwylliant neu dreftadaeth.

Swydd barhaol ac amser-llawn yw hon, ond mae’n agored i ymgeiswyr rhan-amser ar sail rhannu’r swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ewch i:
http://cadw.wales.gov.uk/about/workforcadw/jobvacancies/currentvacancies/?skip=1&lang=cy ac er mwyn gwneud cais https://atsv7.wcn.co.uk/search_engine/jobs.cgi?SID=amNvZGU9MTIzNDk2MCZ2dF90ZW1wbGF0ZT0xMzM4Jm93bmVyPTUwMjMzNjgmb3duZXJ0eXBlPWZhaXImYnJhbmRfaWQ9MCZyZXFzaWc9MTMyOTMyMDUxMy05Y2FkNjExOWVmMzczNjAyYzM0NDg1NjEyNzZhZWFjNGQ5ZTAzMjZk.
Y dyddiad cau yw 9 Mawrth 2012.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails