Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Thursday 22 September 2011

Datganiad Strategol 2011-2012 • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru





Corff a sefydlwyd ym 1908 yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac mae ganddo Warant Frenhinol. Ar hyn o bryd, mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac yn rhan o bortffolio’r Gweinidog dros Dreftadaeth. O dan ei Warant Frenhinol fe’i cyfarwyddir i ‘ddarparu ar gyfer arolygu a chofnodi henebion ac adeiladweithiau hanesyddol o’r cyfnod cynharaf (gan gynnwys yr henebion a’r adeiladweithiau yng ngwely’r môr, arno neu oddi tano o fewn moroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig ger Cymru) trwy gywain, cynnal a churaduro Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru fel y cofnod cenedlaethol sylfaenol o’r amgylchedd archeolegol a hanesyddol’.

Datganiad Cenhadaeth
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw’r corff ymchwilio a’r archif cenedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Ganddo ef y mae’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a chais hyrwyddo gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.

Rôl y Comisiwn Brenhinol
Craidd swyddogaethau gwreiddiol a pharhaus y Comisiwn Brenhinol yw ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol, ei ddeall, ei ddehongli a lledaenu gwybodaeth awdurdodol amdano, gofalu am ei gofnodion ei hun a chofnodion cyrff eraill, a’u cynnal a’u cadw. Mae’r archif sy’n deillio o hynny, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), yn cynnwys dros 1.5 miliwn o ddelweddau ffotograffig (yr archif ffotograffig mwyaf yng Nghymru), 70,000 o luniadau a thros 50,000 o fapiau cyfredol a hanesyddol yn ogystal â thros 3 miliwn o dudalennau o destun. Mae’n ‘fan adneuo’ o dan Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 ac yn agored i’r cyhoedd yn ddyddiol. Mae Coflein, ei wasanaeth gwybodaeth ar-lein, yn darparu mynediad i’r casgliadau, i’r catalogau ac i fynegai cenedlaethol o safleoedd. Cydnabyddir y Comisiwn Brenhinol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol fel y corff swyddogol sy’n arolygu ac yn cofnodi amgylchedd hanesyddol Cymru, ac mae’n ddolen gyswllt â chyrff cysylltiedig eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Darllen yn llawn: Datganiad Strategol 2011-12


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails