Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Friday 1 July 2011

Swyddi Gwag - Uwch Bensaer/Syrfëwr Cadwraeth





Hysbyseb swydd



Uwch Bensaer/Syrfëwr Cadwraeth

2 swydd yn Nantgarw (ger Caerdydd) a Gogledd Cymru

Cyflog yn dechrau ar £34,000 gan godi i £42,000 y flwyddyn.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae’r swyddi hyn yn gyfle arbennig i chwarae rhan flaenllaw i gadw ac i hybu treftadaeth eithriadol Cymru.

Mae’r swyddi uwch hyn yn y gangen Eiddo mewn Gofal wrth galon gwaith Cadw i warchod ei safleoedd yn ôl y safon orau sy’n bosibl ac i sicrhau bod y safleoedd yn lleoedd diogel, hwylus a difyr i ymweld â nhw. Bydd y ddau ddeiliad swydd yn arwain tîm amlddisgyblaeth o staff arbenigol mewn dylunio a gwaith cadwraeth, gan gynnwys timau o grefftwyr cadwraeth ledled Cymru, ac yn cydweithio’n agos â chydweithwyr sy’n gyfrifol am wasanaethau i ymwelwyr, dehongli a gwaith gwarchod archaeoleg. Bydd y naill swydd yn gyfrifol am safleoedd Cadw yn y De a’r llall yn gyrifol am safleoedd yn y Gogledd.

Mae’r rôl yn gofyn am bensaer neu syrfëwr profiadol sydd â chymwysterau proffesiynol a phrofiad o gadwraeth a henebion. Swyddi ym Mand Rheoli 1 y Gwasanaeth Sifil yw’r rhain. Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £34,000 a £42,000 i’r ymgeiswyr llwyddiannus a hynny ar sail eu sgiliau, eu gwybodaeth, eu profiad a’u perfformiad yn y cyfweliad. Does dim modd negodi ynghylch yr amrediad cyflog.

I wneud cais, ewch i www.cymru.gov.uk/recruitment
Ffacs 029 2082 5454 E-bost hr-helpdesk@cymru.gsi.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Cadw ac am y swydd hon,
ewch i www.cadw.cymru.gov.uk neu ffoniwch 01443 336083

Y dyddiad cau 25 Gorffennaf 2011 


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr 
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails