Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Friday 1 July 2011

Swydd Wag - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Eiddo mewn Gofal





Hysbyseb swydd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Eiddo mewn Gofal

Swyddfa yn Nantgarw (ger Caerdydd)

Cyflog yn dechrau ar £54,500 gan godi i £66,800 y flwyddyn.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae’r swydd hon yn gyfle prin i chwarae rhan flaenllaw i gadw a hybu treftadaeth eithriadol Cymru.

Mae deiliad y swydd yn rhan o’r tîm uwch-reolwyr sy’n cyfeirio camau i ddiogelu, cadw a hybu dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol. Dyma rôl allweddol wrth galon Cadw, yn arwain tîm amlddisgyblaeth ddawnus ac yn cydweithio â phartneriaid ledled Cymru ac yn wir yn rhyngwladol.

Ar gyfer y rôl hon mae angen pensaer neu syrfëwr sydd â chymwysterau proffesiynol a phrofiad arwyddocaol o henebion a’r hygrededd i roi hyder i’r bobl y mae Cadw’n gweithio gyda nhw. Swydd ym Mand Rheoli 1 y Gwasanaeth Sifil yw hon. Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £54,500 a £66,800 i’r ymgeisydd llwyddiannus a hynny ar sail ei sgiliau, ei wybodaeth, ei brofiad a’i berfformiad yn y cyfweliad. Does dim modd negodi ynghylch yr amrediad cyflog.

I wneud cais, ewch i www.cymru.gov.uk/recruitment
Ffacs 029 2082 5454
E-bost hr-helpdesk@cymru.gsi.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Cadw ac am y swydd
hon, ewch i www.cadw.cymru.gov.uk neu ffoniwch
01443 336083

Y dyddiad cau 25 Gorffennaf 2011

Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails