Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Monday 16 May 2011

Peintiadau Meini Hirion Sir Penfro J.C. Young





Maen Hir Carreg Coitan Arthur, Puncheston, NPRN: 304361
Crewyd y casgliad o beintiadau sy'n cofnodi meini hirion Sir Benfro gan yr arlunydd J. C. Young dros gyfnod o dair blynedd rhwng 1981 a 1984, gan ddefnyddio rhestr o safleoedd a gyhoeddwyd yn Pembrokeshire Historian ym 1966. Ymwelodd â phob un o'r 53 maen a'u cofnodi'n ofalus iawn yng nghyd-destun y dirwedd o'u hamgylch – menter lafurus, yn aml yn golygu oriau o chwilio a theithio i leoliadau anghysbell. Yn ogystal â chynhyrchu'r peintiadau, creodd Mrs Young nodiadau ar gyfer pob maen, yn cofnodi unrhyw hanes a llên gwerin a gasglwyd wrth wneud ymchwil mewn dogfennau a sgwrsio â'r tirfeddianwyr.

Mae pob peintiad gwreiddiol yn olew ar bord ac yn mesur 5” x 8”. Maen nhw'n dogfennu'r meini'u hunain, ac weithiau'n cynnwys manylion braf o flodau ac anifeiliaid yn ogystal â lleoliadau'r dirwedd sydd o'u hamgylch, yn aml mewn tywydd a golau dramatig. Mae'r peintiadau'n ffurfio casgliad swynol a deniadol o ddelweddau, ac maen nhw hefyd yn ddogfen ddarluniadol bwysig o fath arwyddocaol o safle nad oes gan CBHC lawer o gofnodion gweledol. Mae llygad yr arlunydd hefyd wedi dal manylion a chyd-destun na fyddai cofnod ffotograffig wedi medru gwneud.

Gan fod y lluniau gwreiddiol yn cael eu harddangos a'u gwerthu o 5 Awst, 2011, mae Mrs Young, yn garedig iawn, wedi caniatáu i'r Cofnod Henebion Cenedlaethol gopïo'r peintiadau'n ddigidol ar gyfer eu harchif gyhoeddus. Mae gobaith y bydd y peintiadau'n cael eu gwerthu'n un casgliad cyfan, gan ei fod yn ddymunol iawn cynnal cyfanrwydd y math hwn o waith. Ond pe caiff y casgliad ei wasgaru, mae'r CBHC yn hapus i gadw set lawn rithwir o'r peintiadau o leiaf, a'u rhoi ar gael i'r cyhoedd.

Maen Hir Parc-y-Garreg, Pen Cnwc, NPRN: 413137
Maen Hir Cerrig-y-Derwyddion, Eglwyswrw, NPRN: 304049
Harold Stone, Haroldstone, NPRN: 305339
Maen Hir Rhyndaston-Fawr, NPRN: 305325
Maen Hir Llanfair-Nant-y-Gof, NPRN: 305192
Maen Gwyn Hir, NPRN: 275685
Maen Hir Llanfrynach, NPRN: 304109
Rhes o feini, Parc-y-Meirw, NPRN: 285
Maen Hir Parc Hen, NPRN: 305198
Carreg Galchen Fach, Maenclochog, NPRN: 304453
Pâr Carreg Cornel Bach, Maenclochog, NPRN: 304454
Maen Hir Ty Newydd, Mathry, NPRN: 305214
Pâr Carreg Waun Lwyd, Mynachlog Ddu, NPRN: 304054
Maen Hir Trefais, Moelygrove, NPRN: 304089
Maen Hir Pen Parke, Brynawel, NPRN: 413138
Maen Hir Waun Mawn, NPRN: 300423
Pâr Carreg, Tafarn-y-Bwlch, NPRN: 304356
Maen Hir Carreg Coitan Arthur, Puncheston, NPRN: 304361
Maen Hir Fagwr Fran, Puncheston, NPRN: 304362
Maen Hir Maen Dewi, St David’s, NPRN: 305373
Maen Hir Harold, Skomer Island, NPRN: 305372


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails