Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Friday 27 May 2011

Castell y Fewpyr, Bro Morgannwg - Plu 3D Ddelweddu Pensaernïaeth Trwy Animeiddio






Fideo animeiddio o Castell y Fewpyr, Saint Hilari, Bro Morgannwg

Castell y Fewpyr, Saint Hilari, Bro Morgannwg

Codwyd y maenordy canoloesol hwn tua 1300 a’i addasu yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Ynddo cewch gyntedd wedi’i gerfi o’n wych yn null y Dadeni ac sy’n dangos dylanwad cynlluniau o’r Eidal ar bensaernïaeth Cymru. Mae yng ngwarcheidiaeth Cadw erbyn hyn.

Codwyd y maenordy sylweddol hwn yn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol ac mae wedi’i drefnu o amgylch tri chwrt helaeth. Deuir ato drwy borthdy trawiadol a godwyd tua 1586. Arferai hwnnw fod yn grenelog ac fe ddangosai ddyddiad. Mae pilastrau Ïonaidd ffliwtiog ac arfbais teulu Bassett a’u harwyddair ‘Gwell anghay na chwillydd’ yno o hyd.

Fe eir i mewn i adeilad neuadd y de o’r cwrt mewnol drwy gyntedd trillawr a maint-llawn yn null y Dadeni hwyr. Y dyddiad arno yw 1600. Gellir ei gymharu ag ‘wynebddalen’ tai rhyfeddol eraill o’r cyfnod Elisabethaidd/Jacobeaidd fel Kirby Hall yn Sir Northampton. Mae wynebddalen yn derm arbennig o briodol am fod y cyntedd yn ymdebygu i’r wynebddalennau darluniedig, a braidd yn bensaernïol, a geid yn y llyfrau a gâi eu hargraffu ar y pryd. Mae’r cyntedd yn cyfleu gwybodaeth dda o’r drefn glasurol: mae iddo bennau colofnau Dorig ar y llawr isaf, rhai Ïonaidd ar y cyntaf ac yna rai Corinthaidd ar yr ail lawr.

Er gwaetha’i wreiddiau uchelwrol, yr oedd Castell y Fewpyr wedi llithro i lawr y raddfa gymdeithasol o faenordy i ffermdy erbyn 1709 ac yn ddiweddarach aeth â’i ben iddo. Heddiw, nid erys fawr o’r to na’r llawr ac nid yw’n hawdd ei gyrraedd. Ar ddarn bach o waith plastr addurniadol yn y rhan dde-ddwyreiniol sydd â tho arno darlunnir rhosyn Tuduraidd mawr a llew ar ei sefyll. Ac yn adeilad y de mae’r neuadd fawr sylweddol a’r lle tân ynddi yn tystio i’r gogoniant a fu.

Inventory Morgannwg, Cyf. IV, Rhan 1: The Greater Houses, 46-63.


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails