Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Monday 4 April 2011

Swyddi Gwag ar gyfer 2 Archeolegydd Cymunedol





ARCHAEOLEGWYR CYMUNEDOL (2 swydd)

Dyddiad Ago: 4 Ebrill 2011
Dyddiad Cau: 27 Ebrill 2011
Lleoliad: Aberystwyth


Hyd: Penodiad tymor penodol tan 31.1.2014
Cyflog: £20,100 to £25,200.

Dyma gyfle cyffrous a heriol i ymwneud â chyflawni prosiect Cymru-Iwerddon a ariannir gan Interreg 4 a. Mae’r Comisiwn Brenhinol, fel y partner arweiniol, wedi cael cyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i weithredu’r prosiect “Cysylltiadau Metel – Cyduno Cymunedau”.

Nod partneriaeth Cysylltiadau Metel yw dod â chymunedau ynghyd o Gymru ac Iwerddon sydd â chysylltiad hanesyddol cyffredin oherwydd ecsbloetio mwynau metel. Prif nodau’r prosiect yw datblygu a hyrwyddo cyd-gyfleoedd cymdeithasol-gynhwysol i adfywio hen gymunedau mwyngloddio metel; hybu a hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol ac addysgol newydd sy’n seiliedig ar fwyngloddio, archaeoleg, daeareg a threftadaeth ddiwylliannol, a rhannu ffyrdd newydd o adrodd ‘stori’ yr ardaloedd mwyngloddio a’u cyffiniau er mwyn ceisio creu cynnyrch unigryw a wnaiff apelio at dwristiaid a chyfrannu at adfywio economaidd.

Prif ddyletswydd y swyddi hyn yw ymgysylltu â grwpiau cymunedol i sefydlu a hyrwyddo amrywiaeth o fentrau ynghylch archaeoleg (o bob cyfnod) yr ardaloedd lle’r arferid cloddio am fetelau.

Bydd gennych gymhwyster hyd at lefel gradd, cymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol neu brofiad cysylltiedig ar lefel briodol. Bydd gennych brofiad o ymgysylltu a gweithio gyda grwpiau cymunedol; o ddatblygu, rheoli a gweithredu prosiectau, ac o hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau a digwyddiadau, gan gynnwys defnyddio’r datblygiadau technolegol diweddaraf fel blogiau, facebook ac ati. Bydd gennych chi hefyd drwydded yrru lawn o’r DU.

Mae’n hanfodol i ddeiliad un o’r ddwy swydd allu cyfathrebu yn Gymraeg.

Interreg Logo



Graddfa Cyflog: Band C
Cyflog:
£20,100 to £25,200 per annum
Hyd y cytundeb: 34 month
Cysylltwch â: Louise Barker

Dogfennau sy'n ymwneud â swydd benodol:


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails